News & EventsLatest NewsCalendar
Neges Nadolig 2022 y Cadeirydd

Neges Nadolig 2022 y Cadeirydd

Jonathan Ervine24 Dec 2022 - 11:56
Share via
FacebookTwitter
https://www.bangor1876.com/new

"Mae gan Fangor 1876 lawer i’w ddathlu"

Wrth i ni agosáu at gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, mae gan Fangor 1876 lawer i’w ddathlu. Rydym ar frig y gynghrair, ac yn edrych ymlaen at weddill y tymor gyda hyder a chyffro. To read an English version of this message, please click here.

Mae’n rhaid i mi dalu teyrnged i Johno, ei dîm hyfforddi a’r chwaraewyr am yr hyn sy’n troi’n dymor cofiadwy. Gobeithio y bydd modd cryfhau’r garfan ymhellach yn ystod y ffenestr drosglwyddo nesaf i wneud yn siŵr bod ganddyn nhw’r cyfle gorau posib i gario ymlaen â’r gwaith da. Roedd gwobr Rheolwr y Mis diweddar Johno yn gwbl haeddiannol, a gobeithio y bydd mwy o wobrau dros y misoedd nesaf!

Oddi ar y cae, mae trafodaethau’n parhau ynglŷn â lle bydd y tîm cyntaf yn chwarae’r tymor nesaf. Yn unol â’n huchelgais i chwarae ar lefel uwch, rydym wedi gofyn i Gymdeithas Peldroed Cymru gynnal asesiad o addasrwydd Treborth ar gyfer pêl-droed Haen 2. Rydym hefyd yn cynnal trafodaethau gyda Chyngor y Ddinas, ac yn gobeithio y gallwn gytuno ar gynllun sy’n caniatáu inni symud i Nantporth, sydd eisoes â’r cyfleusterau sydd eu hangen ar gyfer pêl-droed Haen 1 a Haen 2.

Heb daflu dwr oer ar frwdfrydedd unrhyw un o’n cefnogwyr, rhaid i mi dynnu sylw’r cefnogwyr at yr angen i gadw at y rheolau wrth fynychu gemau. Arweiniodd yr awydd dealladwy a naturiol i ddathlu’r fuddugoliaeth yn Rhyl at ddirwy o £125 pan aeth cefnogwyr ar y cae ar ddiwedd y gêm. Er bod y cefnogwyr yn ymddwyn yn dda, ac yn dathlu buddugoliaeth wych, cosbyd y clwb am dorri’r rheolau. Mae'r un peth yn wir am fflachiadau - peidiwch â'u gadael i ffwrdd yn ystod gemau gan y gallai hyn hefyd arwain at gosbau ariannol.

Fel clwb, rydym yn awyddus i weld ein timau iau yn datblygu, ac mae Chris Jones a’i gydweithwyr sy’n rhedeg y gwahanol dimau yn gwneud gwaith ardderchog wrth symud yr ochrau ieuenctid ymlaen. Gyda phrofiad Mel Jones, rydym yn gobeithio ehangu ar drefniant yr ieuenctid dros y tymhorau nesaf, gan gynnig mwy o gyfleoedd a gobeithio creu’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr i’r tîm cyntaf.

Mae'n gwaith cymunedol hefyd yn cynyddu mewn momentwm. Yn gynnar yn 2023, byddwn yn lansio ein cynllun iechyd meddwl a llesiant, gan weithio gyda nifer o sefydliadau ym Mangor a’r cyffiniau. Fel clwb sy’n eiddo i gefnogwyr gyda ffocws cymunedol, mae’r gwaith hwn yn hynod o bwysig, a bydd yn caniatáu inni estyn allan i’r gymuned ehangach. Fel rhan o hyn, bydd casgliad banc bwyd ym mhob gêm gartref, felly plis cefnogwch gyda’r hyn y gallwch fforddio ei gyfrannu. Cyn bo hir byddwn yn cyhoeddi penodiad Swyddog Datblygu Pêl-droed, y bydd ei rôl yn hanfodol wrth symud y ffocws cymunedol yn ei flaen.

Yn olaf, hoffwn ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd lewyrchus i holl deulu 1876. Dewch i gefnogi’r timau os gwelwch yn dda – gwerthfawrogir eich anogaeth, a gadewch i ni weithio gyda’n gilydd i barhau i wneud 1876 yn glwb y gallwn fod yn falch ohono.

Further reading