News & EventsLatest NewsCalendar
Diweddariad diwedd y tymor

Diweddariad diwedd y tymor

Jonathan Ervine4 Jun 2022 - 07:30
Share via
FacebookTwitter
https://www.bangor1876.com/new

Darllenwch barn ein cadeirydd Glynne Roberts

Gan fod y tymor wedi dod i ben, gallwn edrych yn ôl a chysidro’r hyn oedd, i bob pwrpas, ein tymor cyflawn cyntaf ers i ni gael ein ffurfio dair blynedd yn ôl.

Tra byddai gorffen yn ail wedi bod yn dipyn o gamp i’r rhan fwyaf o glybiau, fe ddaeth fel siom i ni, oherwydd ein bod wedi gweithio mor galed i ennill dyrchafiad awtomatig. Yn anffodus i ni, cafwyd Bodedern fel gwrthwynebwyr cryf, tîm a lwyddodd i'n pipio i'r teitl. Rydym wedi gwneud cais i gael ein hystyried ar gyfer Haen 3, felly gallwn obeithio nad yw pob cyfle ar gau i ni.

Ar y cyfan, fodd bynnag, roedd yn dymor llwyddiannus iawn. Roeddwn ni’n wych wrth ennill Cwpan y Gynghrair, ac mae gennym ni Rownd Derfynol y Cwpan Her i edrych ymlaen ato. Ond y prif beth i mi yw ein bod wedi dod allan o'r pandemig yn gymharol ddianaf. Dechreuodd y dorf ddod yn ôl, perfformiodd y tîm yn dda, ac rydym mewn lle da i gicio ymlaen eto’r tymor nesaf.

Mae'n rhaid i mi dalu teyrnged i'r chwaraewyr a'r staff hyfforddi. Gosododd Dylan seiliau cadarn ar ddechrau’r tymor, ac mae Johno wir wedi cymryd at y rôl yn dilyn ei benodiad. Mae’r tîm hyfforddi a meddygol o’i gwmpas wedi gweithio’n ddiflino, ac maent i gyd wedi chwarae eu rhan. Ar y cae, mae’r chwaraewyr wedi rhoi popeth, sef y cyfan y gallwn ofyn. Rydym yn ffodus iawn i gael y fath dalent o'n cwmpas.

Gobeithiwn gael noson gyflwyno yn fuan – penderfynwyd aros tan ddiwedd y tymor cyn trefnu hyn. Cadwch olwg am fanylion am y digwyddiad, a dewch draw i dalu teyrnged i'r tîm am bopeth y maent wedi'i gyflawni.
Wrth edrych ymlaen, rydym yn gobeithio meithrin cysylltiadau agosach gyda’r timau Merched, a datblygu ein hadran iau. Fel clwb sy’n perthyn i gefnogwyr, rydym hefyd yn awyddus i feithrin cysylltiadau agosach â’r gymuned leol, ac yn gobeithio datblygu rhaglen dros y tymor nesaf i wella’r cysylltiadau hynny.

Er mwyn cyflawni ein huchelgeisiau, mae angen i bawb gymryd rhan. Gadewch i ni wybod os ydych am wirfoddoli i gefnogi unrhyw un o’r meysydd rydym yn eu cefnogi. Mae Bangor 1876 yn ymwneud â phawb ohonom yn cydweithio.

Further reading