CYFRANNWCH AT DDATBLYGIAD 1876
Mae’r paratoadau ar gyfer y tymor newydd yn mynd yn dda yn Adran Iau'r Clwb o dan oruchwyliaeth Ifan Thomas â’r tîm o hyfforddwyr. Wedi denu nifer o chwaraewyr newydd dros yr Haf, ‘rydym yn bwriadu sefydlu timau newydd yn yr oedrannau iau ond , ar hyn o bryd, ‘rydym yn brin o hyfforddwyr i gynnig y safon o hyfforddiant a gofal sydd ei angen i gynnal timau llwyddiannus.
Fe fyddwn yn cynnal sesiwn hyfforddi yn Nhreborth i’r oedrannau dan 11 bore Sadwrn nesaf, Medi 4, gan gychwyn am 1000. Byddwn yn croesawu chwaraewyr newydd ac, efallai’n bwysicach, hyfforddwyr, gwirfoddolwyr, a rhieni sy’n fodlon ein cynorthwyo. Fe fydd Ifan yn falch iawn o glywed oddi wrthoch chi os ‘rydych am gynnig eich gwasanaeth.
Ei rif ffôn yw 07969 180769 a’i gyfeiriad e-bost development@bangor1876.com
CONTRIBUTE TO THE DEVELOPMENT OF 1876
Preparations for the new sseason are going well in the Club’s Junior Section under the supervision of Ifan Thomas and our team of coaches. Having attracted a number of new players over the summer, we are proposing to establish new teams in the lower age groups but, at the moment, we are short of coaches to offer the standard of coaching and care required to sustain successful teams.
We will be holding a coaching session in Treborth for the under 11 age groups this Saturday morning, 4 September, starting at 1000. We welcome new players but, possibly more importantly, coaches, volunteers, and parents who are prepared to assist us. Ifan will be very very glad to hear from you if you are prepared to offer your services.
His phone number is 07969 180769 and his email address development@bangor1876.com