News & EventsLatest NewsCalendar
Ymunwch ag arwr lleol yn ein Hadran Iau

Ymunwch ag arwr lleol yn ein Hadran Iau

Jonathan Ervine17 Mar 2021 - 09:30
Share via
FacebookTwitter
https://www.bangor1876.com/new

Diweddariad adran iau gan Dafydd Hughes

Yn dilyn cyhoeddiad y Prif Weinidog dydd Gwener, fe gyhoeddwyd byddai gweithgareddau ar gyfer plant dan 18 yn medru ail-ddechrau ar 27 Mawrth. ‘Roedd hyn yn amlwg yn newydd da ac yn gam mawr ymlaen tuag at rywfaint o normalrwydd.

Ar yr un pryd, yn anffodus, cyhoeddodd Cynghrair Gwyrfai dros y penwythnos byddai’n canslo gweddill y tymor i bob oedran. Er bod hyn yn siomedig, mae’n hollol ddealladwy ac yn ein galluogi i `barhau gyda’r paratoadau ar gyfer dechrau tymor nesaf.

Mae’n falch gennym ddatgan fod ein chwaraewr tîm cyntaf sy’n arwr lleol, Les Davies, yn ymuno â’r Adran Iau fel hyfforddwr ein tîm dan 16 newydd. Bydd hyn yn gyfle arbennig i fechgyn yr ardal ddysgu gan rywun sydd wedi datblygu drwy’r sustem fel bachgen ifanc i ddilyn gyrfa anhygoel a chyrraedd yr uchelfannau yn y gêm yng Nghymru.

Mae Les eisoes yn gweithio’n galed i ddarparu ar gyfer tymor nesaf ac yn chwilio am chwaraewyr i ymuno â’r Clwb. Os ydych â diddordeb i chwarae a dysgu oddi wrth Les, cysylltwch!

‘Rydym yn parhau i chwilio am hyfforddwyr i ymuno â’r Clwb ar gyfer yr oedrannau sail ac i helpu Les ar y lefel dan 16. ‘Rydym yn cynnig cefnogaeth i’r hyfforddwyr i wella eu cymwysterau a dylai unrhyw un sydd â diddordeb gysylltu un ai drwy’r tudalennau cyfryngau cymdeithasol neu drwy e-bostio development@bangor1876.com

Bydd y Rhaglen Peldroed Hwyl oedd bod i ddechrau ym mis Ionawr yn dychwelyd yn ystod mis Ebrill. Byddwn yn darparu mwy o wybodaeth maes o law. ‘Rydym hefyd yn gweithio ar brosiectau cyffrous eraill bydd o ddiddordeb mawr i blant lleol ac fe fyddwn yn rhyddhau mwy o fanylion cyn bo hir.

Further reading