News & EventsLatest NewsCalendar
Ymateb i'r Her – Cefnogi ein cymunedau

Ymateb i'r Her – Cefnogi ein cymunedau

Jonathan Ervine24 Apr 2021 - 07:30
Share via
FacebookTwitter
https://www.bangor1876.com/new

Neges gan ein cadeirydd Glynne Roberts

Mae sôn o'r diwedd am ail-gychwyn pêl-droed, a gwyddom fod rhai dyddiadau ym mis Gorffennaf wedi'u cyhoeddi ar gyfer cystadlaethau cwpan. Unwaith y bydd gennym fwy o sicrwydd, bydd y clwb yn sicrhau ein bod yn cyfleu'r dyddiadau a'r amserlenni allweddol.
Wrth feddwl am bopeth yn dechrau eto, mae angen i ni hefyd edrych ar beth arall gall y clwb ei gynnig. Fel Cwmni Buddiannau Cymunedol, sefydlwyd Bangor 1876 i weithio gyda'r gymuned leol er budd y gymuned leol, ac wrth i'r tymor newydd nesáu, hoffem ystyried ffyrdd ychwanegol y gallwn gefnogi ein cymuned. Yn sicr, mae cyfnod heriol o'n blaenau.

Ers sefydlu'r clwb, rydym wedi cyfrannu at nifer o elusennau lleol, ac rydym yn awyddus i ddatblygu'r agwedd hon, a chynyddu cefnogaeth y clwb i'r gymuned, ac i weithio gydag ystod eang o fudiadau.

Mae bwriad felly i sefydlu Cronfa Her 1876 i weithio gyda sefydliadau elusennol lleol i sicrhau bod deialog, dealltwriaeth a chytundeb rheolaidd ar flaenoriaethau'r Gronfa, ac y gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Prif gryfder y clwb yw ein cefnogwyr anhygoel, a bwriad y Gronfa yw cynnwys y cefnogwyr wrth greu a gweithredu'r Gronfa. Wedi'i reoli gan y cefnogwyr, byddai'r Gronfa'n gyfrifol am godi arian a chytuno ar sut i ddosbarthu'r arian mewn modd sy'n bodloni blaenoriaethau'r clwb a blaenoriaethau’r gymuned.

I gefnogi'r Gronfa, bydd y clwb yn edrych tuag at greu cyfleoedd rheolaidd ar gyfer codi arian elusennol bob tymor i gryfhau Cronfa Her 1876, gan weithio gyda chefnogwyr a'r gymuned ehangach i greu cyfleoedd cynhyrchu incwm. A chyda mewnbwn y cefnogwyr, gellir trefnu ystod eang o weithgareddau i gynnwys gymaint o bobl â phosibl.
Mae hwn yn gyfle gwirioneddol i adeiladu ffordd gyffrous i'n teulu pêl-droed gefnogi'r gymuned a gwneud gwahaniaeth go iawn.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cefnogi'r fenter hon, cysylltwch â'r clwb: ysgsec@bangor1876.com.

Further reading