News & EventsLatest NewsCalendar
Iechyd Meddwl: mae pêl-droed yn fwy na dim ond gêm

Iechyd Meddwl: mae pêl-droed yn fwy na dim ond gêm

Jonathan Ervine11 Oct 2021 - 16:52
Share via
FacebookTwitter
https://www.bangor1876.com/new

Becky Williams yn trafod Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd

Roedd 10 Hydref 2021 yn Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd, felly wnaethon ni siarard gyda chefnogwraig Bangor 1876 a nyrs iechyd meddwl arbenigol Becky Williams am sut mae pêl-droed yn gallu helpu cefnogi iechyd meddwl. Dyma barn Becky...

Trefnir Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd gan Ffederasiwn Iechyd Meddwl y Byd, ac fe’i cynhelir ar 10 Hydref bob blwyddyn. Mae’n ddiwrnod ar gyfer codi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl a helpu i daclo’r stigma sydd yn gysylltiedig ag afiechyd meddwl.

Y thema ar gyfer Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd eleni yw ‘iechyd meddwl mewn byd anghyfartal’, ac mae’n gofyn i ni feddwl am y materion sydd yn achosi anghydraddoldeb iechyd meddwl yn lleol ac yn fyd-eang. Mae stigma a gwahaniaethu tuag at bobl sydd yn dioddef anawsterau iechyd meddwl yn un o’r rhesymau allweddol am anghydraddoldebau o’r fath. Gall y stigma sydd yn gysylltiedig ag afiechyd meddwl ei gwneud yn fwy anodd i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl chwilio am help. Felly, mae’n hanfodol bod cymunedau yn gweithio ar gael gwared â’r stigma sydd yn gysylltiedig ag iechyd meddwl, a’n bod ni yn trafod yn fwy agored ac yn normaleiddio sgyrsiau am ein iechyd a’n lles meddyliol.

Mae pandemig COVID wedi effeithio ar iechyd meddwl pob un ohonom, a bydd yn parhau i wneud hynny: mae salwch corfforol, sydd weithiau wedi arwain at farwolaeth, wedi arwain at alar i’r rhai sydd wedi goroesi. Mae colli swyddi ac ansicrwydd gwaith wedi arwain at fwy o bryderon ariannol, ac mae’r pellter ffisegol o ganlyniad i’r cyfnodau clo wedi arwain at fwy o arwahanrwydd cymdeithasol a theimlad o unigrwydd. I rai, efallai bod llacio’r rheolau yn achosi pryder a mwy o bwysau. Beth bynnag yr ydych yn ei deimlo, mae hynny yn iawn: does yna ddim ffordd gywir neu anghywir i ymateb. Mae pob un ohonom wedi wynebu heriau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a bydd nifer ohonom angen amser i addasu. O ystyried y pandemig erbyn hyn, mae angen i ni, yn fwy nag erioed, ymestyn at y bobl sydd o’n cwmpas a gofyn iddynt sut maent yn teimlo.

Mae pêl-droed yn fwy na dim ond gêm. Mae’n dod â phobl at ei gilydd ac mae hynny yn creu a meithrin perthnasoedd. Mae gemau yn gyfle gwych i gysylltu’n gymdeithasol, a boed hynny yn sefyll ar ochr y cae, yn chwarae fel rhan o’r tîm, neu gael peint wrth far y clwb, mae pêl-droed yn gyfle da i holi sut mae pobl eraill. Drwy gynnig sgwrs i unrhyw un sydd yn mynd drwy amser anodd a gofyn y cwestiwn syml ‘Ti’n iawn?’ gallwn ddangos cefnogaeth a’u hannog i ofyn am help ar gyfer eu problemau iechyd meddwl yn gynt. Yn aml mae siarad am ein problemau yn helpu i ysgafnhau’r baich, a beth bynnag yr ydych yn mynd drwyddo, mae yna ffordd o symud ymlaen. Gall siarad am iechyd meddwl newid bywyd rhywun.

Efallai mai 10 Hydref yw Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd ond mae UNRHYW DDIWRNOD yn ddiwrnod iawn i siarad am iechyd meddwl.

Gall unrhyw un sydd yn pryderu am ei iechyd meddwl eu hunain neu berthynas / ffrind ffonio Llinell Gymorth C.A.L.L. Mae’r gwasanaeth yn cynnig gwasanaeth gwrando a chymorth cyfrinachol.
C.A.L.L. Llinell Gymorth Iechyd Meddwl Cymru (Rhadffôn) 0800 132 737
Neu anfon ‘HELP’ i 81066

Os ydych mewn argyfwng ac angen siarad â rhywun:
Ffoniwch y Samaritans ar 116 123 (am ddim)
Llinell Gymraeg y Samaritans 0808 164 0123 (am ddim)
Defnyddiwch y llinell destun ‘Shout’ mewn argyfwng – anfon SHOUT i 85258

Further reading