News & EventsLatest NewsCalendar
Ffotograffio ein tymor cyntaf

Ffotograffio ein tymor cyntaf

Jonathan Ervine3 Apr 2021 - 07:45
Share via
FacebookTwitter
https://www.bangor1876.com/new

Sgwrs gydag ein artist cyswllt Pete Jones

Yn ddiweddar, wnaethon ni gyhoeddi bydd Pete Jones yn cydweithio gyda ni fel artist cyswllt, sy'n ddatblygiad cyffrous i'n clwb.

Yn ystod yr wythnos ddiweddaf, rydym wedi rhanu albwm o luniau gan Pete o'n tymor cyntaf. Hefyd, wnaethon ni drafod y lluniau gyda fo. Dyma esboniad yr artist lleol am y cyfres o luniau:

"Roedd y gyfres fach hon o ddelweddau yn ymgais i ddal naws gymunedol “matchday” yn Treborth yn ystod tymor cyntaf y clwb. Y cefnogwyr sy'n gwneud unrhyw glwb ac mae Bangor 1876 wedi'i adeiladu ar yr egwyddor honno.

Mae yna wynebau hen ac ifanc (rhai, ysywaeth, ddim gyda ni mwyach) rhai wynebau sydd wedi bod yn cefnogi pêl-droed ym Mangor ers blynyddoedd, ledled Cymru, Lloegr ac Ewrop.

Mae un ddelwedd yn dangos y casgliad enfawr ar gyfer banc bwyd lleol - adlewyrchiad trist o'n hoes fod hyn yn angenrheidiol ond tystiolaeth o uchelgais y clwb i gryfhau ei gysylltiadau â'r gymuned ac achosion da. Gobeithio bod y delweddau'n rhoi cipolwg ar y cynhesrwydd, yr hiwmor a'r ysbryd da sy'n treiddio'r clwb."

Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio gyda Pete yn ystod ym misoedd nesaf ac at ddablygu prosiectau cyffrous er mwyn creu mwy o gysyllytiadau rhwng ein clwb, artistiaid, a'r gymuned leol.

Further reading