News & EventsLatest NewsCalendar
Dydd Gwener o'r Teras: Mared Rhys

Dydd Gwener o'r Teras: Mared Rhys

Jonathan Ervine27 Mar 2020 - 16:55
Share via
FacebookX
https://www.bangor1876.com/new

Sgwrs am Bangor 1876, y tymor hyd yma, a Chelsea

Mae Mared Rhys yn dod o Waunfawr ag wedi bod yn dilyn Bangor 1876 yn Nhreborth ac oddi cartref y tymor hwn. Yn ddiweddar, mae hi wedi siarad am uchafbwyntiau'r tymor hyd yma...

To read an English translation of this interview, please click here

Pryd wnaethoch chi weld Bangor 1876 am y tro cyntaf?
Y tro cyntaf i mi weld Bangor 1876 oedd eu gêm gyntaf adref yn Nhreborth yn erbyn Holywell Town ble ennillodd Bangor o 3 gol i 1. Dwi'n cofio meddwl ar y ffordd i'r gêm tybed faint fydd yno a faint o gefnogaeth fydd gan y tîm newydd. Saff dweud oni'n pleasantly surprised, roedd hi mor braf cyrraedd y cae a gweld gymaint o gefnogaeth. Mae pethau ond wedi mynd i fyny o fano a dwi'n edrych ymlaen at y dyfodol.

Oes gen ti uchafbwyntiau o'r tymor hyd yma?
Un o'r pethau sydd yn sefyll allan i mi y tymor yma yw gol Johnno yn erbyn Llanystumdwy ym mis Tachwedd. Fel cefnogwyr eraill Bangor, dani gyd yn gwybod fod gôl gan y capten yn rywbeth prin felly roedd y foment honno yn foment dwi'n siwr byddai llawer ohonom yn hoff o ail fyw. Mae'r uchafbwynt arall sydd gen'ai yn rywbeth fwy cyffredinol i ddweud y gwir. Yn ystod y tymor rwyf wedi mwynhau teithio o amgylch yr ardal yn cael gweld caeau gwahanol. Mae wedi bod yn wych ymweld y caeau unigryw. Mae cae Llysfaen, y cae banana bendant yn sefyll allan a dwi ddim wedi gweld cae tebyg i hynny o'r blaen yn sicr!

Fel rhywun o Waunfawr, pa fath o brofiad oedd o weld Bangor 1876 chwarae yn erbyn Waunfawr ym mis Ionawr?
Cwestiwn da iawn! Rhaid mi ddeud mi roedd yn deimlad reit rhyfedd gwylio Waunfawr yn erbyn Bangor 1876. Tymor diwethaf roeddwn yn mynd i wylio Waunfawr ar ddydd Sadwrn weithiau pan doedd Bangor ddim yn chwarae felly rwyf wedi bod yn eu dilyn ychydig o'r blaen. Roedd y gêm yn wahanol iawn i mi yn bersonol! Mewn un ffordd roeddwn yn teimlo fel traitor ond yn bendant gyda Bangor mae fy nghalon.

Rydym yn gwybod eich bod chi'n dilyn Chelsea hefyd. Pa chwaerwr o Stamford Bridge fasech chi'n licio recriwtio i Bangor 1876 a pam?
Fy hoff chwaraewr Chelsea ydi Azpilicueta a mi fyddwn wrth fy modd yn ei weld o mewn crys Bangor 1876, ond wedi dweud hynny dwi ddim yn gwybod pa mor hawdd y byddai iddo gael lle yn y tim. Mae'r amddiffynwyr sydd gennym ni yn solid iawn ac yn gweithio yn wych gyda'u gilydd felly fyddwn i ddim eisiau cymysgu hynny fyny gormod.

Oes yna un peth y baset ti’n hoffi ei newid am bêl-droed?
Heddiw yn benodol fyddai i gael gemau! Mae'n siomedig iawn na fydd gemau yn cael eu chwarae am gyfnod hir nawr o ganlyniad y Coronavirus. Er fod hyn yn siomedig iawn ac yn rwystredig i nifer o bobl, dyma yw'r peth callaf i wneud. Mae'n bwysig i bobol gofio er fod pel-droed yn bwysig mae iechyd pawb yn bwysicach. Gobeithiaf na fydd y cyfnod yma heb bel-droed yn rhy hir ac edrychaf ymlaen i wylio Bangor 1876 yn Nhreborth eto yn fuan!

Further reading