News & EventsLatest NewsCalendar
Diweddariad y Cadeirydd

Diweddariad y Cadeirydd

Jonathan Ervine13 May 2023 - 06:30
Share via
FacebookTwitter
https://www.bangor1876.com/new

Edrych yn ôl ac edrych ymlaen gyda Glynne Roberts

Wrth i ni agosáu at ddiwedd tymor hynod lwyddiannus, mae’n amser i edrych yn ôl dros y tymor, ac ymlaen at y camau nesaf.

Ar y cae, mae’r tîm cyntaf wedi cyflawni’r hyn na allai llawer ohonom ond breuddwydio amdano ar ddechrau’r tymor – i fod yn edrych ar ddyrchafiad yn dilyn ein tymor cyntaf yn Haen 3. Mae Johno, ei staff hyfforddi a chefnogol, a’r chwaraewyr, yn haeddu’r clod mwyaf am gyrraedd mor bell â hyn. Mae’n gyflawniad anhygoel, ac yn dangos pa mor ffodus yda ni i gael y tîm hwn yn ei le.

Fel clwb sy’n perthyn i’r cefnogwyr, mae’r cefnogwyr wrth wraidd popeth a wnawn, a phopeth yr ydym yn sefyll drosto. Mae’r gefnogaeth dros y misoedd diwethaf wedi bod yn anhygoel, ac yn llythrennol mae’r “Bonc Llechic” wedi bod yn 12fed dyn, gan godi’r tîm i nifer o fuddugoliaethau hwyr. Dwin cofio’r teimlad anobeithiol tra’n chwarae Mynydd y Fflint oddi cartref, ar ôl 80 munud, pan es i i brynu paned o de, yn drist ein bod yn colli 2-1, a gweld ein cyfle am ddyrchafiad yn diflannu. Dwy gôl hwyr, wedi eu sbarduno gan y gefnogaeth swnllyd, oedd y catalydd ar gyfer rhediad gwych o ganlyniadau sydd wedi ein gweld yn cyrraedd brig y gynghrair.

Mae’r cyffro y dyliwn ni deimlo gyda’r posibilrwydd o chwarae pêl-droed Haen 2 y tymor nesaf wedi ei leddfu gan yr anghydfod parhaus ynghylch rhedeg Stadiwm Nantporth. Yn y pen draw, mae angen inni aros am ganlyniad yr anghydfod rhwng Cyngor y Ddinas a CIC Nantporth. Y cyfan rydyn ni'n ei ofyn yw’r gallu i chwarae yn Nantporth y tymor nesaf. Nid yw’n fwriad cymryd y stadiwm drosodd, dim ond i fod yn denantiaid, a gweithio i wneud Nantporth yn gartref haeddiannol i bêl-droed hŷn yn y ddinas. Fy ngweledigaeth yw i’r stadiwm fod yn gartref i dimau hŷn y dynion a’r merched, cartref y “teulu 1876”.

Yng nghyfarfod y cefnogwyr yn gynharach yr wythnos hon, roedd cefnogaeth bron yn unfrydol i’r clwb ystyried yr holl gyfleoedd i chwarae yn Haen 2, pe baem yn cael dyrchafiad. Mae’r safbwyntiau a fynegwyd gan ein prif noddwyr, WPV, ynghylch pam eu bod yn teimlo nad ydynt yn gallu ein cefnogi os symudwn i Nantporth gyda’r drefn bresennol wrth y llyw, wedi cael cefnogaeth eang gan ein cefnogwyr. Fodd bynnag, fel y mae pethau, ni fyddwn yn gallu symud ymlaen i Haen 2 heb ein prif noddwr, ac felly bydd yn rhaid aros am ganlyniad ymdrechion Cyngor y Ddinas i adennill y stadiwm. Mae'n rhwystredig bod digwyddiadau'n cymryd cymaint o amser i gael eu gweithredu, ac yn tynnu sylw oddi ar yr hyn sydd wedi bod yn gamp ryfeddol ar y cae.

Bydd diweddariadau rheolaidd yn cael eu darparu, pan fydd gwybodaeth ar gael. Fel Bwrdd, byddwn yn parhau i siarad â’r holl bartïon dan sylw, ond yn y pen draw, mae angen inni aros am ganlyniad yr anghydfod presennol. Gobeithio y bydd y materion yn cael eu datrys yn fuan, ac y gallwn symud i Nantporth, gobeithio fel clwb Haen 2.

Further reading