News & EventsLatest NewsCalendar
Diweddariad y Cadeirydd – Tachwedd 2022

Diweddariad y Cadeirydd – Tachwedd 2022

Jonathan Ervine11 Nov 2022 - 08:00
Share via
FacebookTwitter
https://www.bangor1876.com/new

Cyfnod cyffrous ar gyfer 1876

Gyda’r tymor newydd wedi hen gychwyn, meddyliais y byddai'n gyfle da i roi diweddariad ar nifer o ddatblygiadau o fewn y clwb.

O ran y perfformiadau ar y cae, prin y gallai pethau fod yn well. Mae Johno yn haeddiannol wedi ennill gwobr Rheolwr y Mis am fis Hydref, sy'n dyst iddo, ei dîm hyfforddi a'r chwaraewyr. Ar hyn o bryd rydym yn eistedd ar frig y gynghrair, ac yn gobeithio bod yn ymladd i gael dyrchafiad ar ddiwedd y tymor.

Mae’r Bwrdd yn awyddus i gyd-fynd â’r uchelgais ar y cae, ac i sicrhau bod gennym y sylfeini yn eu lle pe baem yn cael dyrchafiad. Mae’r meini prawf ar gyfer cyfleusterau chwarae yn Haen 2 yn llymach na Haen 3, ac rydym yn gweithio ar nifer o bosibiliadau i sicrhau nad yw unrhyw lwyddiant chwarae yn cael ei rwystro gan faterion oddi ar y cae. Rydym yn edrych ar gyfleoedd grant i ddatblygu Treborth, ond hefyd mewn trafodaethau gyda Chyngor y Ddinas am Nantporth. Mae'n rhaid i unrhyw symudiad gyd-fynd â dau amcan: yn gyntaf, mae angen i'r goblygiadau ariannol fod yn fforddiadwy - ni allwn osod baich ar y clwb na ellir ei fforddio. Yn ail, mae angen sicrwydd deiliadaeth arnom. Os ydym am ddod yn glwb Haen 2, mae angen gwarant o ymrwymiad 10 mlynedd i chwarae ar unrhyw faes. Byddaf yn darparu diweddariadau pellach unwaith y bydd mwy o eglurder.

Mae llawer o ddyfalu wedi bod yn y cyfryngau am y digwyddiadau yn y gêm yn erbyn Y Rhyl. Mae ymchwiliad yn parhau gan yr Heddlu ar hyn o bryd, ac mae Heddlu Gogledd Cymru wedi datgan yn gyhoeddus y byddan nhw’n cyfweld sawl chwaraewr. Byddwn yn amlwg yn cefnogi unrhyw geisiadau am wybodaeth, a byddwn yn aros am ganlyniad yr ymchwiliad cyn gwneud unrhyw ddatganiadau cyhoeddus.

Mae'r clwb hefyd yn gweithio i ddatblygu ystod o fentrau lles yn y gymuned. Byddwn yn cyhoeddi’r rhain yn fuan, ond mae’r gwaith am gynnal ein hymrwymiad i fod wrth galon y gymuned. Bydd y rhaglen hon yn cael ei gryfhau drwy gynllun prentisiaeth newydd, ac roedd yn anrhydedd i ni fod ymhlith dim ond llond llaw o glybiau chwaraeon ledled Cymru a dderbyniodd y cyfle i wneud cais am y rhaglen bwysig hon. Ar hyn o bryd rydym yn hysbysebu am brentis, a fydd yn datblygu nifer o’r rhaglenni lles, a hefyd yn gweithio’n agos gyda Chris Jones fel Pennaeth Ieuenctid a Mel Jones fel Rheolwr Clwb, fel bod gennym fwy o raglenni cymunedol o ran pêl-droed cystadleuol a chyfleoedd pêl-droed llai strwythuredig. Os oes gennych chi ddiddordeb, cliciwch ar y ddolen hon.

Mae hwn yn gyfnod prysur iawn i'r clwb. Siaradwch ag aelod o'r Bwrdd os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli naill ai ar ddiwrnod gêm neu ar gyfer y gweithgareddau lles.

Further reading