News & EventsLatest NewsCalendar
Cyfweliad gydag ein pennaeth ieuenctid Ifan Thomas

Cyfweliad gydag ein pennaeth ieuenctid Ifan Thomas

Jonathan Ervine14 Jan 2022 - 08:15
Share via
FacebookTwitter
https://www.bangor1876.com/new

Dysgwch yn fwy am dimau ieuenctid Bangor 1876

Mae hi wedi bod yn dymor cyffrous ar gyfer timau iau Bangor 1876. Darllenwch yn fwy yn ein cyfweliad gydag ein pennaeth adran iau Ifan Thomas...

Sut fasech chi'n disgrifio'r tymor hyd yn hyn ar gyfer y timau sydd yn ran o'n adran ieuenctid?
Mae wedi bod yn dymor heriol iawn, yn bennaf oherwydd Covid a’r cyfyngiadau sydd mewn lle. Mae ein tîmau dan 13 a dan 12, a oedd wedi’w sefydlu cyn y tymor yma wedi cael dechrau cryf iawn i’r tymor ac yn cystadlu yn dda yn eu cynghreiriau. Rhaid nodi fod hyfforddwyr yr oedranau yma yn gwneud gwaith gwych gyda’r plant sydd yn eu gofal.

Mae’r timau dan 7 & 11 yn newydd y tymor yma, ac mae chwaraewyr dawnus iawn gan y ddau dîm ac maent wedi cystadlu yn dda yn eu gemau i gyd. Rydyn ni dal yn chwilio am hyfforddwyr i helpu gyda’r oedranau yma er mwyn gwneud yn siwr eu bod yn cael cyfle teg i ymarfer a chwarae gemau yn rheolaidd. Byddai cefnogaeth llawn ar gael i unrhyw unigolyn sydd a diddordeb.

Oes yna rai dimau sydd yn chwilio am fwy o chwaraewyr ar hyn o bryd?
Mae ein tîm dan 7 hefyd yn chwilio am fwy o chwaraewyr. Y peth pwysicaf yn yr oedran yma ydi fod y plant yn cael HWYL ac yn MWYNHAU chwarae pel droed. Os oes gan rhywyn ddiddordeb ymuno, peidiwch ac aros i gysylltu gyda fi.

Mae Covid wedi cael tipyn o effaith ar beldroed yng Nghymru y tymor hwn. Ydy o wedi cael effaith ar dimau ieuenctid?
Mae Covid wedi cael effaith fawr ar ein timau ieuenctid, gyda hyfforddwyr, chwaraewyr a rhieni yn gorfod hunan ynysu neu wedi cael Covid 19 ac yn gorfodi ni i ohurio llawer o’r gemau a’r ymarferion. Mae hefyd wedi ein rhwystro ni i gynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb gyda’r hyfforddwyr a’r rhieni sydd wedi bod yn rhwystredig iawn. Gobeithio ein bod yn dechrau gweld golau ar ddiwedd y twnel erbyn hyn.

Pan oeddech chi'n ifanc, pwy oedd eich hoff chwaraewyr?
Yn ifanc, fy hoff chwaraewr oedd Tim Cahill i Everton. Roedd yn chwaraewr oedd wrth ei fodd yn chwarae i Everton, wastad yn rhoi 100% ac yn sgorio goliau pwysig iawn i’r tîm. Beth fuasen ni yn gwneud i gael chwaraewr fel fo yn y tîm cyntaf yn Everton ar hyn o bryd.

Oes gennych chi neges olaf i bawb sydd efo diddordeb mewn gweithgareddau’r adran ieuenctid?
Os oes gan unrhyw un unrhyw ymholiadau am yr adran iau yn Bangor 1876 mae croeso i chi gysylltu hefo fi (e-bost: development@bangor1876.com). Diolch i bawb am y gefnogaeth hyd yn hyn.

Further reading