News & EventsLatest NewsCalendar
Bangor 1876 visit Ysbyty Gwynedd

Bangor 1876 visit Ysbyty Gwynedd

Jonathan Ervine20 Dec 2020 - 08:30
Share via
FacebookTwitter
https://www.bangor1876.com/new

Darllenwch yn fwy mewn erthygl gan Dafydd Hughes

NADOLIG LLAWEN I’R PLANT
(English language version below)

Nadolig diwethaf fe gaeth y Clwb y fraint o ymweld â Ward y Plant yn Ysbyty Gwynedd ond, yn anffodus, nid oedd yn bosibl i ni wneud hynny eleni oherwydd y Pandemic. ‘Roedd y Clwb eisiau dangos ei werthfawrogiad o’r gwaith sy’n mynd ymlaen drwy’r flwyddyn gan drefnu i ymweld â’r Ysbyty a chyfrannu tuag at Gronfa Awyr Las.

Trefnodd Ben Ogilvy, ein Pennaeth Datblygu i rai o chwaraewyr timau iau’r Clwb a’r Clwb Merched i fynd i’r ysbyty dros y penwythnos. Yn y llun mae Dylan Williams, rheolwr y tim cyntaf, Ben, a chynrychiolwyr y timau iau, gyda Liz Tayloro Ysbyty Gwynedd, yn derbyn cyfraniad i’r Gronfa.

Fel dywed y staff ar y Ward “..Rydym ni ar Ward y Plant mor ddiolchgar am yr holl gefnogaeth a roddwyd gan y gymuned trwy gydol y flwyddyn. Blynyddoedd cynt, yn ystod y Nadolig, rydym wedi bod yn ffodus i dderbyn anrhegion Nadolig i'r plant. Eleni, hoffem ofyn i'n ffrindiau yn y gymuned beidio â dod ag anrhegion Nadolig i'r ysbyty. Mae hyn er mwyn amddiffyn ein staff, ac yn bwysicaf oll ein cleifon a chi, yn ystod argyfwng COVID-19.

Byddem yn hynod ddiolchgar pe byddech yn ystyried rhoi’r arian i’n cronfa AwyrLas. Yna byddwn yn defnyddio'ch rhoddion i brynu'r anrhegion . Neu os hoffwch gyfrannu a thrafod be i brynu fel anrhegion , cysylltwch â'r e-bost isod i'w drafod os gwelwch yn dda.

I gyfrannu, dilynwch y ddolen Just Giving - bydd yr arian yn dod yn uniongyrchol atom ni a byddwn ni ar y ward yn penderfynu sut i wario'r arian fel ei fod yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf i'n cleifion. Os fydd yna arian dros ben, mi fydd yncael ei ddefnyddio yn ystod y flwyddyn i brynu anrhegion pen-blwydd a theganaunewydd i'r ystafell chwarae...”

Os hoffech chwi gyfrannu yn unigol cysylltwch â carina.roberts@wales.nhs.uk neu ymweld â’r dudalen JustGiving (cyfeiriad isod)

A MERRY CHRISTMAS FOR THE CHILDREN

Last Christmas, we had the honour of visiting the Children’s Ward at Ysbyty Gwynedd but, unfortunately, it was impossible to do so this year because of the Pandemic. The Club was anxious to show its gratitude for the work that goes on all-year round by arranging to visit the Hospital and contributing to the Awyr Las Fund.

Ben Ogilvy, Head of Development, arranged for some of the junior players from the Club and the Women’s Club to visit the hospital over the weekend. In the photo, you can see Dylan Williams, first team manager, Ben, and representatives of the junior teams, with Liz Taylor of Ysbyty Gwynedd, receiving a contribution to the Fund.

The staff on the Ward commented “…We would love for you to consider fundraising or making a donation to fund Christmas presents for children in hospital over the festive period this year.

We kindly ask that actual presents are not brought in to the ward this year, to ensure we are maintaining our distance and limiting unnecessary visits to continue to protect our NHS staff and patients as much as possible.

Please remember that if the money raised exceeds the need for presents on the ward, your donations will then be used to buy birthday presents, art and craft items and toys for the playroom throughout the year. All donations raised will make a difference to our young patients. Your kindness and support will definitely help brighten up a child's hospital visit or stay over Christmas time….”

If you would like to make an individual donation to the Christmas fund or would like to donate to the playroom and require more information, please e-mail carina.roberts@wales.nhs.uk or visit the JustGiving page (address below).

https://www.justgiving.com/fundraising/Ward-Y-Plant-Children-s-Ward-Ysbyty-Gwynedd?utm_campaign=lc_frp_share_transaction_transactional_--_donation_received_--_nth_donation&utm_content=24a1207a-12d6-4000-bec1-3c2dcd513c45&utm_medium=email&utm_source=postoffice&utm_term=1607092386081

Further reading