To read an English language version of this article, please click here.
Yn dilyn tymor hynod lwyddiannus, gyda’r tîm cyntaf yn ennill dyrchafiad i Haen 2, mae gwaith wedi bod yn mynd ymlaen i sicrhau bod y tîm yn gallu chwarae ar y lefel uwch.
Llwyddwyd i gael trwydded Haen 2 gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru i chwarae yn Nantporth, a bydd hyn yn symudiad arwyddocaol ac emosiynol iawn i gefnogwyr pêl-droed ym Mangor. Ddoe, fe gadarnhaodd Y Gymdeithas Bêl-droed statws y clwb yn y gynghrair uwch.
O ystyried y pryderon blaenorol ynghylch y materion cyfreithiol parhaus rhwng CIC Nantporth a Chyngor y Ddinas o ganlyniad i ddyledion hanesyddol, roedd Bangor 1876 yn pryderu am gynaliadwyedd a goblygiadau hir-dymor y symud i Nantporth. Gan fod y materion hynny wedi’u datrys, mae’r clwb yn awyddus i symud i’r stadiwm i chwarae pêl-droed Haen 2 y tymor nesaf.
Bydd trafodaethau pellach yn cael eu cynnal gyda CIC Nantporth, gyda’r gobaith y gallwn adeiladu ar y cytundeb presennol i sicrhau presenoldeb hir-dymor y clwb yn Nantporth, ac y gallwn, gyda’n gilydd, symud ymlaen i ddarparu tîm ac isadeiledd i wneud y ddinas yn falch.
Cynhaliwyd cyfarfod neithiwr gyda chefnogwyr Bangor 1876, lle roedd cefnogaeth gyffredinol y dylid symud ymlaen i ddod i gytundeb gyda’r CIC, ac y gallwn sicrhau’r sicrwydd hir-dymor a fydd yn caniatáu inni gynllunio, paratoi a chyflawni o’r tymor nesaf ymlaen.